Pwy Ydym
Elusen ydi Menter Ysgolion Cymraeg sydd yn cynrychioli nifer o unigolion, capeli ac eglwysi o wahanol yn Ne Cymru.
Ein prif ddiben ydi esbonio’r ffydd Gristnogol mewn ysgolion yng nghylch y brifddinas a ledled Cymru. Rydym yn ymweld ag ysgolion cynradd i gynnal gwasanaethau a gwersi.
Anelwn at fagu diddordeb plant yn y Beibl, a helpu iddyn nhw weld sut mae Cristnogion yn ei gymhwyso i’w bywydau, mewn ffordd:
- weledol
- perthnasol
- creadigol
- addysgiadol
- Beiblaidd
Rydym yn hybu www.beibl.net yn yr ysgolion, gwefan gyffrous yn llawn o adnoddau a defnyddiau i astudio a deall y Beibl, yn ogystal â chyfieithiad newydd o’r Beibl mewn Cymraeg cyfoes.
Mae cynrychiolwyr o sawl capel ac eglwysi o enwadau gwahanol yn cwrdd unwaith y tymor i weddïo dros y gwaith a chefnogi’r gweithwyr. Cefnogir y gwaith hefyd gan bwyllgor o ymddiriedolwyr.
Beth Rydym yn Wneud
Mae storïau o’r Beibl yn gallu bod yn hwyl ac yn ddiddorol i bawb, ac mae Menter Ysgolion Cymraeg yn cyflwyno’r storïau o’r Beibl drwy ddefnyddio amryw o ddulliau gweledol. Mae nifer o weithwyr yn mynd i ysgolion yng Nghaerdydd, Casnewydd, Pontypridd, Bro Morgannwg, Penybont ar Ogwr, a’r Cwm Rhondda, gan ddysgu’r hyn sydd gan Dduw i’w ddweud yn ei Air, ac am y modd y mae pobl wedi ymateb iddo drwy hanes – a heddiw hefyd.
Rydym yn cyflwyno newyddion da Iesu Grist mewn amrywiaeth o dulliau a hefyd mewn amrywiaeth o osodiadau sef:
gwasanaethau | gweithdai ymarferol | clybiau ysgol | anghenion arbennig |llawlyfrau a mwy!
Gwasanaethau
Mae addoliad cymunedol boreol (gwasanaethau!) ysgolion yn lle gwych i rannu neges y Beibl â phlant, ac mae’n rhaid inni wneud yn fawr o’r cyfle. Awn i ysgolion cynradd (yn bennaf) i siarad â’r plant. Yn y sesiynau hyn, defnyddiwn sgetsfwrdd, pypedau, lledrith, drama, caneuon a chymhorthion gweledol eraill i drosglwyddo’r neges – ond bob amser gyda neges y Beibl yng nghanol y llwyfan ym mhopeth a gyflwynwn. Yn ystod y cyfnod Covid-19, rydym yn cynhyrchu gwasanaethau ar-lein er mwyn cyflenwi adnoddau parod i ysgolion sy ddim yn gallu cynnal gwasanaethau gyda’u hysgolion cyfan.
Gweithdai Ymarferol
Rydym yn cyflwyno negesion Nadolig a’r Pasg drwy gyflwyniadau o’r enw ‘Lapio Nadolig’ a ‘Cracio’r Pasg.’ Mae’r rhain yn cymryd lle mewn eglwys leol, gyda’r plant yn ymweld ar gyfer archwilio’r stori mewn ffyrdd ymarferol, gan gynnwys drama, cyflwyniadau amlgyfrwng, crefft, llythrennedd a llawer o hwyl! Gweithio gyda eglwysi lleol yn gallu datblygu cysylltiadau rhwng ysgolion a llefydd addoliad gerllaw.
Clybiau
Rydym yn rhedeg clybiau gyda thimoedd o Gristnogion yn gwneud gwaith tebyg i ni. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal clwb mewn ysgol uwchradd, gyda gweithgareddau gan gynnwys gemau, hwyl a chyfleoedd i glywed am yr hyn y mae’r Beibl yn ei ddweud a beth mae Cristnogion yn eu credu.
Anghenion Ychwanegol
Rydym yn partneru gyda grŵp bach Caerdydd (ar hyn o bryd a elwir ‘GoleudyiBawb’) i ddarparu gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn i blant ag anghenion ychwanegol a’u teuluoedd. Yn ystod y cyfnod Covid-19, cynhelir y digwyddiadau hyn ar-lein. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar dudalen GoleudyiBawb.
Lawrlyfrau a Mwy!
Beth mae plant yn ei ofni fwyaf ynghylch yr ysgol uwchradd? Beth maent yn ei golli fwyaf ar ôl gadael yr ysgol gynradd? Bob blwyddyn, cyflwynwn gopïau o lyfryn Undeb y gair, ‘Y Cam Nesaf’ i gannoedd o blant ym mlwyddyn chwech, cyn iddynt adael yr ysgol gynradd. Mae hwn yn adnodd defnyddiol i helpu plant wrth iddynt ymateb i’r profiad newydd o fynd i’r ysgol uwchradd. Mae’n llawn cynghorion defnyddiol ac anogaethau, gan gynnwys tystiolaethau, cerddi a storïau o’r Beibl. Er nad yw’n ymwthgar, mae’n rhannu â’r plant bod Duw ar gael bob amser i’w helpu pan deimlant fel pysgod bach mewn pwll mawr!
Rydym yn hyrwyddo Beibl.net yn ein gwaith yn yr ysgolion. Gwefan wych yw www.beibl.net, yn llawn o adnoddau Beiblaidd a chymhorthion astudio. Ac mae ynddi hefyd gyfieithiad o’r Beibl cyfan mewn Cymraeg clir a chyfoes.