Croeso

Tweets Diweddaraf

View this page in English

Pwy ydym

group

Elusen ydi Menter Ysgolion Cymraeg sydd yn cynrychioli nifer o gapeli ac eglwysi o wahanol enwadau yng Nghaerdydd a'r cylch.

Ein prif ddiben ydi hyrwyddo y ffydd Gristnogol mewn ysgolion yng nghylch y brifddinas a ledled Cymru. Rydym yn ymweld ag ysgolion cynradd ac uwchradd i gynnal gwasanaethau a gwersi.

Anelwn at fagu diddordeb plant yn y Beibl, ac i'w gymhwyso i fywyd plant yn ein cenhedlaeth bresennol mewn ffordd:

  • weledol
  • perthnasol
  • creadigol
  • addysgiadol
  • Beiblaidd

Rydym yn hybu www.beibl.net yn yr ysgolion, gwefan gyffrous yn llawn o adnoddau a defnyddiau i astudio a deall y Beibl, yn ogystal â chyfeithiad newydd o'r Beibl mewn Cymraeg cyfoes.

Nod arall ydi addysgu'r plant am Gristnogion enwog hanesyddol a sôn am waith pwysig gan Gristnogion ar draws y byd yn ein dyddiau ni drwy elusennau fel Tearfund.

Mae cynrychiolwyr o ddeuddeg o gapeli ac eglwysi yn cwrdd unwaith y tymor i weddïo dros y gwaith a chefnogi'r gweithwyr. Cefnogir y gwaith hefyd gan bwyllgor o ymddiriedolwyr.