Croeso

Newyddion diweddaraf

Yn anffodus, roedd rhaid i ganslo'r Cyngerdd Dathliad Blynoddol yn ddyledus i gymryd lle yn Eglwys Highfields ar 24 Mehefin, ond peidiwch a phoeni, bydd ddigwyddiadau cyffrous eraill yn cymryd lle yn y dyfodol!

View this page in English

Gweithgareddau

Mae storïau o’r Beibl yn gallu bod yn hwyl ac yn ddiddorol i bawb, ac mae Menter Ysgolion Cymraeg yn cyflwyno’r storïau o’r Beibl drwy ddefnyddio amryw o ddulliau gweledol. Mae nifer o weithwyr yn mynd i ysgolion yng Nghaerdydd, Pontypridd, Penarth a’r cylch, gan ddysgu’r hyn sydd gan Dduw i’w ddweud yn ei Air, ac am y modd y mae pobl wedi ymateb iddo drwy hanes – a heddiw hefyd.

Dyddiadur Digwyddiadau

Gwasanaethau

Gwen yn peintioMae gwasanaethau ysgolion yn lle gwych i rannu’r efengyl â phlant, ac mae’n rhaid inni wneud yn fawr o’r cyfle. Awn i ysgolion cynradd ac uwchradd yn ogystal ag unedau Cymraeg bach. Yn y sesiynau hyn, defnyddiwn sgetsfwrdd yn aml, gan gyflwyno storïau’r Beibl mewn lluniau, gan ddangos cymeriadau a lluniau wrth i’r stori ddatblygu.

Yn ogystal â sgetsfwrdd, defnyddiwn bypedau, drama, consurio a chymhorthion gweledol eraill i drosglwyddo’r neges – ond bob amser gyda’r efengyl yng nghanol y llwyfan ym mhopeth a gyflwynwn.

Gwersi Addysg Grefyddol

Gwen a choronCyflwynwn y cwrs ‘Beibl Chwilotwr’ mewn nifer o ysgolion. Am awr yr wythnos dros bum wythnos, mae’r cwrs yn rhoi trosolwg o’r Hen Destament a’r Testament Newydd gan ddefnyddio symbolau, rhythm ac odl i’r plant ddysgu, yn ogystal â chymorth gweledol, amlgyfrwng, taflenni gwaith i fynd â nhw adref, a thystysgrif i bob plentyn ar y cwrs. Mae’n gwbl ryngweithiol ac yn cynnwys llawer o hwyl!

...Ac mae rhagor!

Beth mae plant yn ei ofni fwyaf ynghylch yr ysgol uwchradd? Beth maent yn ei golli fwyaf ar ôl gadael yr ysgol gynradd? Bob blwyddyn, cyflwynwn gopïau o lyfryn Undeb y gair, ‘Y Cam Nesaf’ i gannoedd o blant ym mlwyddyn chwech, cyn iddynt adael yr ysgol gynradd. Y Cam NesaMae hwn yn adnodd defnyddiol i helpu plant wrth iddynt ymateb i’r profiad newydd o fynd i’r ysgol uwchradd. Mae’n llawn cynghorion defnyddiol ac anogaethau, gan gynnwys tystiolaethau, cerddi a storïau o’r Beibl. Er nad yw’n ymwthgar, mae’n rhannu â’r plant bod Duw ar gael bob amser i’w helpu pan deimlant fel pysgod bach mewn pwll mawr!

Rydym yn hyrwyddo Beibl.net yn ein gwaith yn yr ysgolion. Gwefan wych yw www.beibl.net, yn llawn o adnoddau Beiblaidd a chymhorthion astudio. Ac mae ynddi hefyd gyfieithiad o’r Testament Newydd mewn Cymraeg clir a chyfoes.

Yn ogystal â chyflwyno’r Beibl mewn modd diddorol, rydym hefyd yn addysgu’r plant am ffigurau Cristnogol enwog a hanesyddol. Drwy sôn am elusen Tearfund, rydym yn eu haddysgu am y gwaith pwysig a wneir gan weithwyr Cristnogol ar hyd a lled y byd.