Yn anffodus, roedd rhaid i ganslo'r Cyngerdd Dathliad Blynoddol yn ddyledus i gymryd lle yn Eglwys Highfields ar 24 Mehefin, ond peidiwch a phoeni, bydd ddigwyddiadau cyffrous eraill yn cymryd lle yn y dyfodol!

Yn wreiddiol o Lanymddyfri ond bellach yn byw ym Mhontypridd gyda'm gwraig, Alicia. Ar hyn o bryd yn weinidog yn Nhreorci. Yn cyflwyno'r cwrs 'Beibl Chwilotwr' a chynnal gwasanaethau yn rhai o ysgolion cynradd y Rhondda a'r cylch fel rhan o waith Menter Ysgolion Cymraeg.

Dw i ’n byw yng Nghaerdydd gyda fy ngwraig sy’n athrawes. Dw i’n gwneud gwaith ysgolion yn rhan-amser gyda Menter Ysgolion Cymraeg, ac rwyf hefyd yn rheolwr technoleg gwybodaeth rhan-amser. Dw i’n Gristion ers pan oeddwn i’n 12 oed, ac yn awyddus byth ers hynny i blant ym mhob man gael gwybod y gallan nhw adnabod Crist hyd yn oed yn eu hoedran nhw, yn hytrach nag aros tan y byddan nhw’n hŷn. Dwi wrth fy modd yn cael dweud mor rhyfeddol yw Duw.


Rwy'n dod o Lyn-nedd yn wreiddiol ond wedi byw ym Merthyr ers y saithdegau. Rwy'n aelod o gapel ym Merthyr ac yn hoffi bod yn rhan o gymuned Gymraeg Merthyr. Wedi bod yn cyflwyno Beibl Chwilotwr a chynnal gwasanaethau ers 2004. Fy ngweddi yw bod disgyblion yn gweld :
Gweddïaf y deuant i adnabod Duw yn Iesu Grist ryw ddydd. Hau'r had ydw i: Duw biau'r cynhaeaf. Mae'n fraint ac yn bleser cael mynd a chyflwyno'r Beibl a chynnal gwasanaethau.

Rwyf yn enedigol o orllewin Cymru a symudais i Gaerdydd yn 1998 i gymryd swydd dysgu yn un o ysgolion cynradd Cymraeg y ddinas. Rwyf nawr yn byw ar gyrion y ddinas ac yn mynychu eglwys yn y ddinas. Cefnogaf waith Menter gan y credaf ei bod hi'n bwysig i bawb gael y cyfle i glywed am ras a diaoni ein Duw, ac i hyn fod mewn ffordd sy'n berthnasol ac yn llawn bywyd.

Rydw i wedi bod ynglŷn ag addysg trwy'r Gymraeg bron ar hyd fy ngyrfa. Eleni rydw i'n dysgu Lladin am bedwar diwrnod yr wythnos mewn ysgolion yng Nghaerdydd. Rydyn ni wedi magu'r teulu yng Nghaerdydd, ac aeth y trydydd mab i’r coleg ym mis Medi. Rydw i'n adnabod Gwen ers nifer o flynyddoedd, a phan glywon ni am y posibiliad o rannu neges yr efengyl mewn ysgolion Cymraeg eu cyfrwng, roeddwn i’n falch o'r cyfle i helpu gyda'r gwaith gweinyddol.

Yn enedigol o ardal Aberystwyth, mi ddes i Gaerdydd yn 1977 ac yna mi ddychwelais yma yn 1986 ar ôl cyfnod yn Lloegr. Mae gan Elaine fy ngwraig a finnau ddwy ferch yn eu harddegau, Rachael a Ffion. Rwyf yn darlithio yn yr adran Ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fe ddes i at yr Arglwydd pan oeddwn i’n naw oed. Rheolwr banc ydw i; rwy’n briod ac yn dad i dri o feibion. Cynhyrfus i mi yw gweld yr holl gyfleoedd y mae Duw yn eu hagor i waith Menter ymhlith ysgolion cyfrwng Cymraeg, a gweld yr efengyl yn cael ei hestyn i genhedlaeth newydd o blant, a hynny am y tro cyntaf efallai.

Rwy’n 43 mlwydd oed (ond mae amser yn hedfan!). Rwy’n aelod o Eglwys yng Nghaerdydd, ac yn athro mewn ysgol cynradd. Pan glywais i bod Duw yn anfon gweithwyr i fynd i egluro’i waith yn ein hysgolion Cymraeg, meddyliais bod rhaid imi gynorthwyo mewn rhyw ffordd. Felly rwy’n ymddiriedolwr! – sydd yn credu mewn Duw trugarog, cyfiawn, trindodaidd – ac rwy’n ymddiried yng waith gorffenedig Iesu fel yr unig ffordd at y Duw byw. Mae’n fraint cael amddiffyn neges yr efengyl yng Nghymru a chefnogi’r fenter hon.